Consortia
Mae ein rownd flynyddol o 15 cyfarfod consortia a gynhelir drwy Gymru yn ganolog i raglen Creu Cymru o ddatblygu’r sector ac maen nhw’n seiliedig ar feysydd penodol o weithgaredd neu ddiddordeb cyffredin.
Mae un sy’n canolbwyntio ar bob un o’r prif gelfyddydau perfformio sef dawns, drama a cherddoriaeth, yn ogystal â man cyfarfod ar gyfer aelodau Gogledd Cymru a grŵp ar gyfer rhaglenwyr a marchnatwyr o theatrau sy’n meddu ar “lai o adnoddau” yn Ne Cymru. Yn ogystal, mae llwyfan rheolaidd sy’n darparu cyfle i gynhyrchwyr ac artistiaid gwrdd â rhaglenwyr er mwyn cyflwyno eu gwaith.
Mae’r fforymau hyn yn cwrdd bob chwarter a nhw yw’r prif fannau lle gallwn ni gynllunio teithiau, nodi a datblygu prosiectau newydd, rhannu gwybodaeth ac ysgogi dadl feirniadol.
Cyfarfodydd sydd I ddod
Dyma ddyddiadau’r cyfarfodydd consortia nesaf sydd wedi’u trefnu:
- Yr Hyrwyddwr Dyfeisgar / Marchnatwyr De Cymru, Dydd Mercher 11 Medi @ Y Lyric, Caerfyrddin
- Cyfarfodydd Consortia Cyfunol – Dydd Mercher, 18 Medi @ Galeri, Caernarfon
- Consortiwm Gogledd Cymru, Dydd Mercher, 16 Hydref @ Venue Cymru, Llandudno