Consortiwm Dawns
Wedi’i gadeirio gan Gill Ogden (Canolfan Celfyddydau Aberystwyth), yn ddiweddar roedd y fforwm hwn ynghlwm â chyfnod datblygu tair blynedd, helaeth (wedi’i gyllido gan Gyngor Celfyddydau Cymru) a oedd yn canolbwyntio ar bedair elfen:
- Bydis Dawns
Rhaglen arloesol a oedd yn gosod datblygiad yr artist law yn llaw â datblygiad y gynulleidfa, roedd y cynllun yn paru artistiaid dawns annibynnol gyda theatr neu ganolfan gelfyddydau mewn partneriaeth fentora ar y cyd – er mwyn cynyddu maint ac ansawdd y gwaith a wnaed yng Nghymru sydd ar gael ar gyfer cynulleidfaoedd.
- Plant a theuluoedd
Buddsoddiad mewn cydgynyrchiadau o waith wedi’i wneud yng Nghymru ar gyfer plant a theuluoedd, yn ogystal â dod o hyd i gynyrchiadau ar draws y ffin a thu hwnt i hynny.
- Rhyngwladol
Cynyrchiadau ardderchog wedi cael eu hymchwilio a’u cyflwyno ar raddfa fechan ac ar raddfa ganolig y tu allan i Gymru a thramor.
- Marchnata a datblygu’r gynulleidfa
Wedi gweithio gydag aelodau Creu Cymru er mwyn codi’r safon i ymestyn ac ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar gyfer dawns yng Nghymru.
Daeth y prosiect hwn i ben ym mis Mawrth 2017, ac er nad oes cyllid prosiect ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd, mae’r meysydd yr ymdriniwyd â nhw yn parhau o ddiddordeb arwyddocaol i lawer o aelodau Creu Cymru.
Mae’r Consortiwm Dawns yn agored i holl aelodau Creu Cymru a chynhelir y cyfarfodydd yn eu tro rhwng Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth Cymru.
Cliciwch yma am fanylion cyfarfodydd sydd ar ddod.
Adrannau Diogel