Consortiwm Drama
Gill Ogden – Cadeirydd (Canolfan Gelfyddydau Aberystwyth), cohort o aelodau Creu Cymru sy’n ymgysylltu yn frwdfrydig ag ymweliadau gwerthfawr i wneud ymchwil i raglenni a dychwelyd eu canfyddiadau i’r grŵp i’w trafod – yn aml yn ysgogi teithiau a chydgynyrchiadau. Ymysg mentrau arwyddocaol eraill, mae ymchwil data ar y cyd, a chyfres barhaus o ddigwyddiadau sy’n cysylltu â chynhyrchwyr yng Nghymru.
Mae’r Consortiwm Drama hefyd yn trefnu cyfleoedd hyfforddi achlysurol ar gyfer aelodau, yn fwyaf diweddar i wella dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth ynglŷn â manylebau technegol a thrafod cytundebau. Mae aelodau hefyd wedi cyfrannu tuag at benderfynu ar agenda Creu Cymru ar gyfer ymweliadau Ewch i Weld a guradwyd.
Mae’r Consortiwm Drama yn agored i holl aelodau Creu Cymru a chynhelir y cyfarfodydd yn eu tro rhwng Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth Cymru.
Cliciwch yma am fanylion cyfarfodydd sydd ar ddod.
Adrannau Diogel