Consortiwm Cerdd
Mae’r casgliad prysur a rhagweithiol hwn o raglenwyr a chynhyrchwyr cerddoriaeth (wedi’i gadeirio gan Dilwyn Davies, Theatr Mwldan) yn aml yn cydweithio ar brosiectau teithio. Tra bod hyn yn arferol ar gyfer teithiau unigol fel Catrin Finch, Eastpointers, Celtic Guitar Trio a Khamira, yn dilyn WOMEX 2013. Cynhyrchodd Creu Cymru a Theatr Mwldan, wedi’u cefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Cerdd Cymru Music Wales, daith drwy Gymru gan Horizons, a oedd yn dangos artistiaid a pherfformiadau cefnogi wedi’u cynhyrchu yn lleol. Roedd y daith yn cynnwys 4 taith o 8 artist i 16 o leoliadau drwy Gymru dros gyfnod o 4 diwrnod, gyda rhaglen allgymorth wedi’i chyflawni gan Gerdd Cymunedol Cymru.
Mae’r Consortiwm Cerdd yn agored i holl aelodau Creu Cymru a chynhelir y cyfarfodydd yn eu tro rhwng Gogledd Cymru, De Cymru a Chanolbarth Cymru.
Cliciwch yma am fanylion cyfarfodydd sydd ar ddod.
Adrannau Diogel