Mae Creu Cymru yn chwilio am Arbenigwr Cyfathrebu Llawrydd
Briff llawrydd Creu Cymru
GOFYNION
Mae Creu Cymru, yr asiantaeth datblygu ar gyfer y celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru, yn chwilio am arbenigwr marchnata a chyfathrebu llawrydd i weithio gyda ni er mwyn hyrwyddo gwaith y sefydliad, i gynyddu aelodau ac i adnabod cyfleoedd yn y wasg.
NODWEDDION
- Rheoli marchnata a chyfathrebu ar gyfer Creu Cymru.
- Hyrwyddo aelodaeth Creu Cymru ac annog aelodau newydd.
- Ysgrifennu datganiadau i’r wasg ar gyfer digwyddiadau, ymgyrchoedd a newyddion.
- Casglu astudiaethau achos gan aelodau er mwyn cynorthwyo sut rydym yn trafod buddion aelodaeth.
- Nodi cyfleoedd yn y wasg er mwyn hyrwyddo’r sefydliad a’r aelodau.
- Creu cylchlythyr misol i’r aelodau.
- Cynorthwyo staff gyda chynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol.
- Creu deunydd marchnata ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau.
CEFNDIR
PWY YDYM NI?
Creu Cymru yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Mae ein haelodau yn cynrychioli bron y cwbl o ganolfannau’r genedl a reolir yn broffesiynol ar wahanol raddfeydd.
Yn gyntaf ac yn bennaf, rhwydwaith cydweithredol yw Creu Cymru; rydym yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil, teithiau, cyd-gynyrchiadau… ac uwchlaw popeth, ewyllys i ddatblygu rhaglenni a chynulleidfaoedd. Rydym yn cydweithio i gefnogi adnodd sy’n dod yn fwyfwy cydnerth wrth graidd cymunedau ar draws Cymru.
Cafodd Creu Cymru ei sefydlu yn 2001 gan ac ar ran y rhwydwaith o theatrau a chanolfannau celfyddydau a gaiff eu rheoli’n broffesiynol ledled Cymru fel Asiantaeth Deithiol Cymru, drwy grant Loteri dwy flynedd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Wrth ddarparu’r gwaith yma, rydym yn cydweithio ag ystod eang o bartneriaid masnachol a chyhoeddus yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol.
Ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru, mae Creu Cymru hefyd yn rheoli ‘Hynt’, sef cynllun mynediad cenedlaethol y Cyngor sy’n helpu i ddatblygu’r celfyddydau cynhwysol a hygyrchedd ar gyfer cynulleidfaoedd ledled Cymru.
Yn dilyn adolygiad o’n rhaglenni a’n rheolaeth yn 2020, rydym yn bwriadu ehangu ein cylch gwaith aelodaeth i gynnwys cwmnïau cynhyrchu, i ddod â’r sector celfyddydau perfformio ynghyd er mwyn siarad â llais unedig wrth rannu adnoddau ac arbenigedd ac i hyrwyddo gweithio ar y cyd.
Mae creu’r sector unedig hwn drwy aelodaeth estynedig yn sicrhau cynrychiolaeth ar draws y sector cyfan, gan hwyluso cydweithrediad newydd ac alinio diddordebau a phartneriaethau newydd.
Bydd y gwaith hwn yn dechrau o fis Ebrill ymlaen a bydd y rôl yma’n cydweithio’n agos â’r Cyfarwyddwr er mwyn hyrwyddo a sbarduno ffigyrau aelodaeth ac incwm.
MANYLION
£200 y diwrnod am 4 diwrnod y mis. Caiff ei adolygu ar ôl 6 mis gydag estyniad posibl o 6 mis.
Mae staff Creu Cymru yn gweithio gartref mewn lleoliadau ledled Cymru ond yn cyfarfod wyneb yn wyneb (pan fydd modd) bob ychydig o fisoedd, mewn lleoliad sy’n gyfleus i bawb.
Bydd disgwyl i’r rôl yma gyfarfod â’r tîm ehangach wyneb yn wyneb o leiaf unwaith bob chwe mis, yn ogystal â chyfarfodydd ar-lein.
Mae gan Creu Cymru dri aelod o staff parhaol; Nick Banwell (Cyfarwyddwr), Yvonne O’Donovan (Gweinyddwr) a Megan Merrett (Gweinyddwr Prosiectau).
AELODAETH
Aelodaeth Lawn
Mae Aelodaeth Lawn ar gael i unrhyw sefydliad proffesiynol yng Nghymru gyda’r prif nod o gynhyrchu, cyflwyno neu guradu gwaith celfyddydau perfformio.
Mae’r aelodaeth yn enw’r sefydliad a gall y gweithwyr i gyd elwa o’r aelodaeth.
Aelodaeth Unigol
Mae Aelodaeth Unigol ar gael i unrhyw weithiwr celfyddydau perfformio proffesiynol yng Nghymru.
Byddwch hefyd yn derbyn ein cylchlythyr a mynediad i’r ardaloedd aelodau yn unig ar ein gwefan a grŵp Facebook.
Aelodaeth Gyswllt (I’w gyflwyno yn 2022)
Mae Aelodaeth Gyswllt ar gael i unrhyw sefydliad proffesiynol yng Nghymru sy’n gweithio o fewn y sector theatr neu ddawns mewn swyddogaeth gefnogol a all hefyd gefnogi cenhadaeth Creu Cymru ond lle nad cynhyrchu, cyflwyno na churadu gwaith celfyddydau perfformio yw eu prif bwrpas.
Mae’r aelodaeth yn enw’r sefydliad a gall y gweithwyr i gyd elwa o’r aelodaeth.
Mae hyn yn cynnwys sefydliadau tu allan i’r sector creadigol sy’n dymuno ymgysylltu â’r sawl sydd yn y sector.
GORFODOL
Rydym yn anelu at ymgorffori cymaint o Gymraeg â phosib i’n cymunedau.
Os ydych chi’n gallu creu deunyddiau yn y ddwy iaith, byddai hynny’n ddymunol. Mae gennym hefyd rywfaint o gyllid ar gyfer cyfieithu.
AMSERLENNI
Rydym yn chwilio am rywun sy’n gallu gweithio o fis Ebrill ymlaen.
CEISIADAU
E-bostiwch eich CV ac unrhyw wybodaeth ychwanegol yr hoffech ei chynnwys, ynghyd â’ch argaeledd at yvonne@creucymru.com
DYDDIAD CAU: Dydd Iau 22 Ebrill, 5yp
Cofiwch roi gwybod beth hoffech chi ei gael gennym ni er mwyn i chi allu gwneud eich gwaith gorau.