Ewch i Weld
Conglfaen gwaith Creu Cymru yw’r cynllun Ewch i Weld, rhaglen wedi’i thargedu o ymweliadau i berfformiadau, gwyliau a chynadleddau. Mae’r ymchwil hwn yn darparu gwybodaeth ar gyfer rhaglenni aelodau Creu Cymru, gan effeithio ar y cynyrchiadau a’r perfformiadau y maen nhw’n eu cyflwyno i’w cynulleidfaoedd – yn ogystal â darparu cyfleoedd datblygu proffesiynol gwerthfawr ar gyfer staff theatrau. Bob blwyddyn, rydym yn rhentu ystafelloedd yn ystod Gŵyl Fringe Caeredin ac mae’r rhain ar gael i aelodau Creu Cymru am bris gostyngedig yn ogystal ag i weithwyr proffesiynol nad ydyn nhw’n aelodau.
Bu ymweliadau rheolaidd a guradwyd i Ŵyl Meim Rhyngwladol Llundain, Cinars, Imaginate, GDIF ac Incubator. Gall aelodau unigol hefyd wneud cais am fwrsariaeth tuag at gostau o fynychu perfformiad, cynhadledd a chyfleoedd hyfforddi.
Gall cynhyrchwyr ac ymarferwyr sydd â chysylltiad gwaith agos gyda Creu Cymru hefyd ymgeisio ar gyfer y cynllun.