Llaw / Hand
Pleser o’r mwyaf i Creu Cymru yw cefnogi nifer o weithwyr proffesiynol llawrydd i weithio gya chanolfannau celfyddydau ar draws Cymru. Cronfa newydd yw Llaw a ddyfeisiwyd gan Creu Cymru gyda phwyslais ar ddatblygu capasiti a chynulleidfaoedd mewn aeold-sefydliadau sydd wedi’u heffeithio arnynt gan bandemig Covid-19.
Mae angen Ymarferydd Cyfranogi Llawrydd i weithio gyda Neuadd Dwyfor, Pwllheli
Mae Neuadd Dwyfor yn edrych i benodi ymarferydd cyfranogi llawrydd i weithio gyda phobl ifainc o’r ardal leol a’r cyffiniau i ddatblygu gofodau creadigol yn ein hadeilad pan fydd yn ailagor yn 2021.
Nod y prosiect fydd annog pobl ifainc i ganfod rhyw deimlad o berchnogaeth a pherthyn yn Neuadd Dwyfor; i ddod i’r adeilad yn rheolaidd, nid yn unig i ddefnyddio’r cyfleusterau ond hefyd i deimlo’n rhan o’r sîn ddiwylliannol leol ac i lunio gweithgareddau a phrosiectau a drefnir gan y sefydliad i’r dyfodol.
Dylai’r prosiect gael ei arwain gan syniadau’r gwahanol bobl ifainc sy’n cymryd rhan ac sydd â diddordeb mewn hwyluso theatr, sinema a ffurfiau ehangach ar gelfyddyd.
Mae’n bwysig ein bod yn gweithio gyda sefydliadau ieuenctid lleol, yn ogystal ag ysgolion a cholegau lleol.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Yn cydweithio â ni i ddatblygu Grŵp Defnyddwyr i bobl ifainc a fydd yn cyfrannu i brosiectau a gwaith yn y dyfodol
- Yn hyderus wrth weithio gyda phobl ifainc ar-lein a chyflwyno gweithdai
- Â phrofiad o ddiogelu ar-lein wrth weithio â phlant
- Wedi cael ei wirio gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd neu’n barod i gael ei wirio wrth gael ei benodi
- Mae’r gallu i gyfathrebu’n rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol i’r rôl
- Er ein bod yn rhagweld mai ar-lein y bydd y prosiect yn digwydd, efallai y bydd rhywfaint o alw i weithio yn yr adeilad felly rydyn ni’n croesawu ceisiadau gan weithwyr llawrydd sy’n gallu teithio i Bwllheli.
Ein gobaith yw y bydd y rôl yn dechrau unrhyw adeg rhwng mis Ionawr a Mawrth 2021 – yr union ddyddiadau i’w trafod a’u cadarnhau.
I wneud cais, anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com gyda CV a llythyr esboniadol yn amlinellu sut mae’ch profiad yn ateb meini prawf y rôl yma.
Ffi: £1000.00 (y gwahanol elfennau i’w trafod a’u cadarnhau)
Dyddiad cau: dydd Gwener 8 Ionawr 2021 am 5yp
Mae Theatr Felinfach yn chwilio am Ymgynghorydd Gofal Cwsmeriaid hynod brofiadol
Yn unol â chyngor cyfredol y Llywodraeth, caeodd Theatr Felinfach ei drysau dros dro ym mis Mawrth 2020. Wrth i ni edrych ymlaen yn awr at y dasg gyffrous o ailagor yng ngwanwyn 2021, mae angen cefnogaeth arnon ni wrth ddatblygu protocolau i’r ‘normal newydd’ a chryfhau ein gwasanaeth a thimau blaen tŷ mewn ffordd hyderus, hygyrch a diogel.
Meini Prawf ar gyfer yr Ymgynghorydd / Criteria for Consultant
- Ymgynghorydd Gofal Cwsmeriaid
- Profiad mewn Gofal am Gwsmeriaid
- Brwdfrydig gyda chymhelliad cryf
- Tystysgrif GDG gludadwy
Tasgau
- Mewn cydweithrediad â staff Theatr Felin-fach ac yn unol â map ffordd Cyngor Sir Ceredigion, paratoi a datblygu cynllun protocolau ar gyfer y normal newydd
- Recriwtio gwirfoddolwyr newydd
- Cydweithio gyda’r gwirfoddolwyr presennol i fapio eu barn, gobeithion, pryderon a safbwyntiau cyffredinol ynglŷn â dychwelyd i wirfoddoli yn y theatr – bydd hyn yn cynnwys demograffeg y gwirfoddolwyr, iechyd a diogelwch, tracio ac olrhain, yr adeilad ei hunan a logisteg dychwelyd i’r adeilad.
- Cyflwyno staff i’r protocolau hyn a’u hyfforddi a’u datblygu’n hyderus a diogel dros y ffôn ac yn ddigidol
- Datblygu gwybodaeth y gwirfoddolwyr fel eu bod yn hyderus wrth ateb unrhyw ymholiad neu gais
- Adnabod a / neu hyfforddi gwirfoddolwyr o ran iechyd a diogelwch a hylendid gan sicrhau proffesiynoldeb wrth ddelio â’r cyhoedd ac ymwelwyr.
- Sicrhau bod y gwirfoddolwyr yn ymwybodol o bwysigrwydd rhoi croeso cynnes, egnïol a chyfeillgar wrth i’n cynulleidfaoedd ddychwelyd
Mae’r gallu i gyfathrebu yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol i’r rôl yma.
Noder gan y bydd yr hyfforddiant yn cael ei gynnal o bell, gallwn ystyried ymgeiswyr o’r tu allan i’r ardal.
Disgwylir i’r rôl gychwyn ar unrhyw adeg rhwng mis Ionawr a Mawrth – yr union ddyddiadau i’w trafod a’u cadarnhau
I ymgeisio, anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com gyda CV a llythyr cais yn amlinellu sut mae’ch profiad yn ateb gofynion meini prawf y rôl.
Ffi: £1000.00
Dyddiad Cau: dydd LLun 4 Ionawr 2021 am 12 hanner dydd.