• English
  • Cymraeg
  • Hafan
  • Amdanom ni
    • Bwrdd
    • Staff
    • Datganiadau Ariannol Blynyddol
    • Cysylltwch â ni
  • Aelodau
    • Cynhadledd
    • Fforwm
    • Rhannu sgiliau
    • Adroddiadau Ymchwil
    • Archif
  • Consortia
    • Consortiwm Dawns
    • Consortiwm Drama
    • Consortiwm Cerdd
    • Consortiwm Gogledd Cymru
    • Yr Hyrwyddwr Dyfeisgar
    • Cofnodion
    • (English) Touring information
  • Ewch i Weld
    • Adroddiadau Ewch i Weld
    • Dyddiadur
  • Prosiectau
    • (English) #wecandothis
    • (English) Public Value Accelerator – Igniting fresh thinking and practice
    • Llaw / Hand
    • Covid-19
    • Dawns Draws Cymru
    • Theatr Gymraeg – Taflen wybodaeth lleoliadau
    • Prosiect Datblygu Cynulleidfaoedd
    • Goroeswyr
    • (English) Hynt
  • Newyddion
  • Covid-19

Creu Cymru

Creu Cymru yw’r asiantaeth ddatblygu ar gyfer theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru. Mae ein haelodau yn cynrychioli bron y cwbl o ganolfannau’r genedl a reolir yn broffesiynol ar wahanol raddfeydd.

Yr Hyrwyddwr Dyfeisgar

Mae’r is-grŵp hwn o sefydliadau cyflwyno yn cynnwys aelodau Creu Cymru, sydd mewn un ffordd neu’r llall yn wynebu amgylchiadau heriol yn nhermau eu hadnoddau.  Gallai hyn fod yn ariannol (nhw yw’r unig brosiect sy’n cael ei gyllido gan CCC nad yw’n cael ei gyllido yn rheolaidd), gallan nhw fod wedi’u lleoli mewn meysydd o amddifadedd cymdeithasol, neu gallan nhw fod yn gweithio gydag adnoddau staffio cyfyngedig iawn.  Mae rhai aelodau o’r grŵp hwn yn cael eu cyllido’n rheolaidd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, ond maen nhw’n wynebu heriau gan rai o’r meysydd eraill hyn.

Yn wreiddiol, sefydlwyd y grŵp Hyrwyddwr Dyfeisgar drwy brosiect tair blynedd a gyllidwyd gan Sefydliad Paul Hamlyn er mwyn datblygu ymarferion gwaith newydd ac arloesol yn seiliedig ar gydweithrediad a rhannu.  Ar yr adeg hon, roedd un ar ddeg o theatrau a chanolfannau’r celfyddydau yn y grŵp, ac roedden nhw wedi cael eu lleoli yn bennaf yn yr ardaloedd diwydiannol yr hen Dde Cymru, ond roedden nhw hefyd yn ymestyn i gynnwys Y Fenni yn y Dwyrain a Chanolfan Gelfyddydau Glannau Gwy yng Nghanolbarth Cymru.  Heddiw, ceir deunaw o theatrau yn y grŵp, mewn trefi arfordirol fel Porthcawl a Phort Talbot i gymoedd De Cymru ac ymlaen i Arberth yn y Gorllewin.

Mae gweithio ar y cyd yn parhau wrth galon eu hymarfer, gyda rhaglenwyr a marchnatwyr yn cael eu gwahodd i bob cyfarfod er mwyn rhannu syniadau.  Mae’r grŵp wedi canolbwyntio ar ddatblygu gwaith ar gyfer cynulleidfaoedd plant a theuluoedd ac mae wedi ymgysylltu â phrosiect ymchwil datblygu cynulleidfaoedd gyda Jo Taylor o Morris Hargreaves McIntyre ynglŷn â’u system Segmentu Cynulleidfaoedd, Culture Segments.

Dros y blynyddoedd, mae aelodau’r grŵp hwn fel Canolfan Gelfyddydau Pontardawe, Sefydliad Glowyr y Coed Duon a Theatrau Rhondda Cynon Taf, wedi ymgysylltu â chysylltiadau sy’n cydgynhyrchu gyda chwmnïau ac artistiaid o Gymru a Lloegr, ac mae hyn yn aml wedi arwain at waith yn teithio drwy’r wlad.

Mae presenoldeb rheolaidd hefyd ar ymweliadau a guradwyd lle mae aelodau yn gweld gwaith gyda’i gilydd ac yn rhannu eu meddyliau a’u syniadau, eu dealltwriaeth a’u hymddiriedaeth, ac o’r gweithgareddau hyn, mae’r gwaith yn aml yn cael ei ddewis i deithio drwy Gymru.

Cadeirydd y Grŵp yw Angela Gould o Theatrau RCT.  Cynhelir y cyfarfodydd bob chwarter ac maen nhw’n cael eu cylchdroi ymysg aelodau’r grŵp.

  • Prosiectau
  • (English) Public Value Accelerator – Igniting fresh thinking and practice
  • (English) #wecandothis
  • Llaw / Hand
  • Covid-19
  • Dawns Draws Cymru
  • Theatr Gymraeg – Taflen wybodaeth lleoliadau
  • Goroeswyr
  • (English) Hynt
  • Prosiect Datblygu Cynulleidfaoedd
Keep in touch
Member LoginYou are not currently logged in.
Latest News
  • Pecyn Hyfforddi Creu Cymru
  • Creu Cymru © 2013
  • designed by fba