Goroeswyr
Cwmni Theatr Chickenshed a Gwasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd (GTCDG)
Ar hyn o bryd mae Creu Cymru yn derbyn grant o Gronfa Datblygu Cynhyrchu Theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi datblygu darn i’r theatr sydd wedi’i ysbrydoli gan brofiadau grŵp o ferched o Wasanaethau Trais yn y Cartref De Gwynedd.
Mae Dave Carey a Christine Nearing o dîm creadigol Chickenshed, ynghyd â dau o actorion y cwmni, wedi gweithio’n ddwys gyda grŵp o gleientiaid a staff GTCDG, gan lunio straeon a themâu a’u trawsnewid yn gynhyrchiad theatr. Mae cyfnodau’r gweithdai wedi bod yn ddwys ac yn ysbrydoledig gan arwain at ddarn sy’n hynod gadarnhaol ac yn dathlu bywyd i’r eitha. Bydd y gwaith-ar-y-gweill yn cael ei rannu mewn cyflwyniad yng ngwanwyn 2014.
Mae’r partneriaid yn gweithio tuag at gynhyrchiad teithiol ar gyfer 2015 – a fydd yn cynnwys pecyn preswyliadau/gweithdai gan weithio â chroestoriad o’r gymuned.