Grŵp o fenywod yn cael sgwrs
Goroeswyr

Tyfodd y prosiect Goroeswyr o gydweithrediad rhwng y cwmni theatr cynhwysol Chickenshed a Gwasanaeth Cam-drin Domestig De Gwynedd drwy grant Datblygu Cynhyrchiad Theatr gan Gyngor Celfyddydau Cymru i gefnogi datblygu darn theatr wedi’i ysbrydoli gan brofiadau criw o ferched a fu mewn cysylltiad â Gwasanaeth Cam-drin Domestig De Gwynedd.

Bu Dave Carey a Christine Nearing o dîm creadigol Chickenshed, ochr yn ochr â dau o actorion y cwmni, yn gweithio’n ddwys gyda grŵp o gleientiaid a staff y Gwasanaeth gan dynnu allan straeon a themâu a’u trawsffurfio i greu cynhyrchiad theatr. Bu’r gweithdai’n ddwys ac yn ysbrydoledig a llwyfannwyd y darn a ddaeth i’r fei o dan y teitl in the absence of silence yn Theatr Chickenshed yng ngogledd Llundain ym mis Mai 2016.