Group of people sat round table chatting at a conference
Gofyn am Ymgeiswyr eithradol i ymuno a'r bwrdd ymddiriedolwyr Creu Cymru
Rhestr Swyddi
Dyddiad cau:

Gwybodaeth am y swydd :

Allech chi helpu i siapio ein gwaith i hyrwyddo dyfodol y celfyddydau perfformio yng Nghymru? Mae gennym ddwy swydd ymddiriedolwr ar gael i ymuno â’n bwrdd.  

Rydyn ni’n awyddus iawn i recriwtio rhywun o gefndir cyllid i un o’r swyddi hyn.

Rydyn ni’n croesawu’n arbennig geisiadau gan y rheini sy’n ystyried eu bod yn dod o gefndiroedd amrywiol.  Rydyn ni’n annog pobl ag anableddau a phobl o gefndiroedd ethnig neu ddiwylliannol amrywiol o bob cwr o Gymru i ymgeisio, gan ein bod am i’r Bwrdd a’n gwaith gael eu llywio a’u cynrychioli gan y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethu.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Creu Cymru wedi bod yn mynd drwy broses ailddatblygu sydd wedi arwain at adolygu ein rhaglen a’n rheolaeth. Rydym nawr yn bwriadu ehangu ein cylch gwaith aelodaeth i gynnwys cwmnïau cynhyrchu, i ddod â’r sector celfyddydau perfformio at ei gilydd i siarad â llais unedig, i rannu adnoddau ac arbenigedd, ac i hyrwyddo gwaith ar y cyd.

Drwy greu’r ecosystem unedig hon drwy ehangu’r aelodaeth, gobeithir cael cynrychiolaeth traws-sector, cydweithrediadau newydd, cysoni buddiannau, a phartneriaethau newydd; popeth sy’n teimlo’n bwysicach nag erioed yng Nghymru yn dilyn y 12 mis diwethaf.

Drwy sefydlu’r strwythur newydd hwn, mae angen i ni sicrhau bod y bwrdd yn cynrychioli’r sefydliad newydd a’i gylch gwaith aelodaeth, er mwyn cynnwys lleoliadau, cwmnïau ac unigolion.

Yn benodol, rydym yn annog pobl ag anableddau a phobl o gefndiroedd ethnig neu ddiwylliannol amrywiol o bob cwr o Gymru i ymgeisio, gan ein bod yn awyddus i’r Bwrdd a’n gwaith gael eu llywio gan y cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu, a chynrychioli’r cymunedau hynny. 

Creu Cymru: Gosod y Llwyfan ar gyfer y Celfyddydau Perfformio yng Nghymru

Ein gwaith:  Mae Creu Cymru, yn anad dim, yn rhwydwaith cydweithredol; rydym yn rhannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil, teithio, eiriolaeth... ac, uwchlaw popeth, ewyllys i ddatblygu rhaglenni a chynulleidfaoedd. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gefnogi adnodd fwyfwy cydnerth sydd wrth galon cymunedau ledled Cymru.

Cenhadaeth
Cryfhau’r celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Gweledigaeth
Bod yn rhwydwaith bywiog ac arloesol o weithwyr celfyddydau perfformio proffesiynol o bob cwr o Gymru. Bydd y rhwydwaith hwn yn datblygu ac yn hyrwyddo gwerth a chydnabyddiaeth o bwysigrwydd y celfyddydau i gymunedau drwy gysylltu pobl, hyrwyddo syniadau, twf arweinyddiaeth a thrwy ddatblygu aelodaeth amrywiol ac ymroddedig.

Bydd Creu Cymru yn ceisio sicrhau na fydd neb yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddynt nodwedd warchodedig, fel y’i diffinnir yn Neddf Cydraddoldeb 2010. Yn benodol, rydym yn annog ceisiadau gan siaradwyr Cymraeg a chan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o wahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth o ran rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Rydyn ni wedi ymrwymo i fodloni gofynion mynediad; rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch chi.

Mae’r sgiliau allweddol rydym yn awyddus i’w recriwtio yn cynnwys y canlynol (ond heb fod yn gyfyngedig iddynt):   

  • Arbenigedd a gwybodaeth am y sector celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru.
  • Arbenigedd a gwybodaeth am reolaeth ariannol.
  • Arbenigedd a gwybodaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth.

Does dim rhaid i chi fod â phrofiad blaenorol o fod ar Fwrdd. Ar gyfer unrhyw ymgeisydd llwyddiannus sydd heb fod yn ymddiriedolwr o'r blaen, byddai mentora a hyfforddiant ar gael.

I wneud cais, llenwch y Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal a’i hanfon gyda CV a llythyr eglurhaol, yn amlinellu pam yr hoffech chi fod yn Ymddiriedolwr, a’r sgiliau sydd gennych i’w cynnig i’r rôl at yvonne@creucymru.com

Os hoffech chi drafod y cyfle hwn yn fanylach, cysylltwch ag Yvonne a fydd yn trefnu amser i chi siarad ag aelod o’r bwrdd, neu Louise Miles-Payne, Cyfarwyddwr.

Meini prawf asesu
Mae Creu Cymru yn chwilio am hyd at chwe Ymddiriedolwr sydd â phrofiad a sgiliau yn un neu ragor o’r meysydd canlynol:

  • Staff o sefydliad sy’n aelod mewn unrhyw rôl (gallai fod yn rheoli, marchnata, rhaglennu, gweithrediadau/technegol, gweinyddu a chyllid)
  • Gweithiwr creadigol proffesiynol neu berfformiwr yng Nghymru yn y sector perfformio byw, gyda phroffil cyhoeddus a diwydiannol rhagorol
  • Cynhyrchydd Theatr neu Gynhyrchydd Gweithredol gyda phroffil rhagorol yn y diwydiant
  • Newyddiadurwr y celfyddydau yn y wasg neu’r cyfryngau gyda gwybodaeth / profiad o theatr / perfformiad byw 

Bydd angen i ymgeiswyr ar gyfer rolau Ymddiriedolwyr hefyd ddangos yn eu cais sut maent yn bodloni’r meini prawf hanfodol canlynol:

  • Dealltwriaeth o nodau ac amcanion Creu Cymru a diddordeb ynddynt.
  • Eiriolwr dros Creu Cymru gyda’r gallu i hyrwyddo ei waith i rwydweithiau ehangach.
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad i’r angen i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant diwylliannol wrth arwain a chyflawni gwaith Creu Cymru.
  • Angerdd dros berfformio’n fyw a’i bŵer i weddnewid bywydau. 

Cynhelir 4 cyfarfod o’r Bwrdd bob blwyddyn a gall rhai Ymddiriedolwyr, ar sail wirfoddol, eistedd ar y 2 is-bwyllgor, y Pwyllgor AD a’r Pwyllgor Cyllid a Chodi Arian, sydd fel arfer yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, cyn cyfarfodydd llawn y Bwrdd. Mae cyfranogiad arall yn wirfoddol ac ar sail yr hyn sydd ei angen e.e. os bydd y Weithrediaeth yn gofyn am gyngor ar bynciau penodol gan Ymddiriedolwyr penodol.

Mae’r penodiad am gyfnod cychwynnol o dair blynedd a disgwylir iddo ddod i rym o ddyddiad sy’n gyfleus i’r ddwy ochr.