Dawnsiwr yn neidio i'r awyr
Aelodaeth Unigol

Mae Aelodaeth Unigol yn agored i unrhyw unigolyn o Gymru, sy'n byw yng Nghymru, neu sy'n cael ei gydnabod fel un sy'n cyfrannu'n rheolaidd i'r celfyddydau perfformio yng Nghymru.

Ffi: £ 50 y flwyddyn + TAW.

Pam bod yn aelod:

Yn ogystal â helpu i drawsnewid y sector celfyddydau perfformio yng Nghymru, mae bod yn aelod yn cynnig:

 

  • Mynediad at sgiliau, gwybodaeth a’r hyder i wella ymarfer ac eiriolaeth yr unigolyn a’r sefydliad.
  • Cysylltiadau cryf o fewn rhwydwaith cenedlaethol.
  • Mynediad uniongyrchol at raglennwyr a chyfleoedd i raglennu.
  • Cefnogaeth gan awdurdod sy’n cael ei barchu a’i werthfawrogi, gyda sylfaen wybodaeth gadarn a gwybodus yn y sector celfyddydau perfformio.
  • Y gallu i ddylanwadu ar y dylanwadwyr.

 

Yr hyn y gallwn ei gynnig:

Cynhadledd Flynyddol* yn cynnwys siaradwyr gwadd ysbrydoledig, sesiynau panel, rhwydweithio a chyfle i rannu’r hyn a ddysgwyd

Ffioedd aelodaeth wedi’u rhewi am y bedwaredd flwyddyn yn olynol

Hyfforddiant o ansawdd uchel gyda lefel uchel o gymhorthdal ariannol*

Cyfleoedd i rwydweithio

Cynrychiolaeth i Gymru ledled y DU

Symposiwm hynt*

Ymweliadau a Bwrsarïau wedi’u curadu*

Cyngor gan ein staff

Mynediad at arbenigwyr

Cydweithio a dysgu ar y cyd

Cyfleoedd i hyrwyddo eich gwaith a swyddi gwag

 

(* efallai y bydd angen ffioedd ychwanegol)

Hynt – hynt yw’r cynllun mynediad cenedlaethol ac yn un o fentrau CCC a reolir gan Creu Cymru ar eu rhan. Mae dros 30,000 o aelodau hynt bellach wedi ymuno â’r cynllun ar draws Cymru.

Fel cwmni annibynnol bach a newydd, roedd yn anhygoel dod i drafod gwaith Neontopia gydag aelodau Creu Cymru. Roedd cael rhannu ein profiadau a'n huchelgeisiau â chynhyrchwyr a'r rhai sy'n rhedeg ein hadeiladau theatr yn amhrisiadwy.
Bydd profiadau fel hyn yn mynd i fod hyd yn oed yn fwy gwerthfawr wrth i ni geisio ailadeiladu ein diwydiant, ac rydw i mor ddiolchgar bod gennym Creu Cymru i gydlynu a dod â'n cymuned theatrig at ei gilydd.
Alun Saunders, Neontopia