Canolfan a Theatr Soar
Venue

contact info

Pontmorlais, Merthyr Tudful, CF47 8UB
01685 722176

Mae Theatr Soar yn cynnig llwyfan i gymuned, adnodd i wireddu uchelgais, a gofod i'r amatur a'r proffesiynol hudo cynulleidfa.

Rydym yn cynnig lleoliad am berfformiadau, cynadleddau, hyfforddiant, cyfarfodydd cyhoeddus a mwy.  Mae rhaglen gyson o berfformiadau a gweithgareddau cymunedol a phroffesiynol.

Nodau ein sefydliad yw:

  • I gefnogi ein cymuned leol yn ei ymateb a'i gwellhad o effaith Covid 19 - trwy'r Celfyddydau.
  • I gynnig cydestun ar gyfer dysgu a chodi hyder mewn defnyddio'r Gymraeg trwy gynnig profiadau celfyddydol cerdd, theatr, dawns, syrcas a llenyddiaeth, sy'n ysbrydoli.
  • I gynnig cartref creadigol croesawgar a chynhwysol i artistiaid,  cwmnïau a'r gymuned.
  • I gefnogi ac ysgogi talent creadigol trwy gynnig cyfleoedd perfformio a datblygu sgiliau yn yr iaith Gymraeg.
  • I roi llwyfan i'r gymuned berchnogi a chyfleu y straeon sydd yn bwysig iddyn nhw.

Rhaglen o berfformiadau cymunedol a phroffesiynol yn y Gymraeg, yn ddwyieithog ac yn Saesneg.