Pobl yn eistedd o amgylch byrddau yn gwrando ar siaradwyr gwadd yn y Gynhadledd
CYNHADLEDD FLYNYDDOL CREU CYMRU 2024
Digwyddiad: digwyddiadau
dydd Mawrth, 14 Mai 14:00–dydd Mercher, 15 Mai 16:00
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Gwybodaeth am y digwyddiad

Pris

Tocyn safonol - £60
Tocyn llawrydd - £25
Tocyn Tîm* (2 berson) - £100
Tocyn Tîm* (3 pherson) - £145
Tocyn Tîm* (4 person) - £180
Tocyn heb aelodaeth - £70

Bydd y pris yn cynnwys lluniaeth (gan gynnwys diod croeso yn y derbyniad ar y noson agoriadol) a chinio ar yr ail ddiwrnod.
*Dim ond ar gyfer cydweithwyr sy’n gweithio i’r un sefydliad y mae’r cynnig bwndel hwn yn gymwys. 

Dolen ar gyfer cofrestru yn dod yn fuan!

Ymunwch â ni am ddeuddydd llawn egni yn nhref hardd Aberystwyth i gael eich ysbrydoli, i adfywio, i gysylltu ac i ddysgu.

Nod Cynhadledd Creu Cymru yw dod â gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar draws y celfyddydau perfformio yng Nghymru at ei gilydd. Bydd y Gynhadledd yn cynnig cyfleoedd i glywed am fentrau anhygoel, arferion gorau a digwyddiadau diwylliannol gwych yn y sector. Bydd siaradwyr gwadd, sesiynau panel, gweithdai, perfformiad a derbyniad â diodydd ar y noson agoriadol.

Bydd y digwyddiad yn agored i aelodau Creu Cymru (75 o sefydliadau a’u staff a’u haelodau unigol) ac unrhyw un arall sy’n gweithio yn y celfyddydau perfformio yng Nghymru.

 

AGENDA 

Dydd Mawrth 14 Mai
2-2.30pm Cofrestru
2.45-3.30pm – Croeso a chyflwyniadau, Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru

3.30-4.30pmSesiwn Banel - Caredigrwydd Diwylliannol a Diogelwch Jen Smith (Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro CIISA), Siân Gale (Rheolwr Sgiliau a Datblygu, BECTU) a Dr Tracy Breathnach (ymgynghorydd iechyd a llesiant a Rheolwr Rhaglen Llawrydd gyda Rhwydwaith Iechyd a Llesiant Celfyddydau Cymru)

4.30-5pm – Cerdd Agoriadol a Holi ac Ateb - Alex Wharton, Children’s Laureate Wales


5.30-7.30pm – Derbyniad â diodydd Bank Vault, 1 New Street, Aberystwyth, SY23 2AT https://bankvault.cymru/ 

Dydd Mercher 15 Ebrill
10-10.30am – Cofrestru / rhwydweithio
10.30-11am – Cyfarfod cyffredinol blynyddol Creu Cymru
11-11.15am - Egwyl

11.15am-11.30pm – Cynaliadwyedd a'r Sector Sgrin - Tilly Ashton, cydlynydd cynaliadwyedd Severn Screen.
12-12.45pm – Holi ac Ateb Cyngor Celfyddydau Cymru – Dafydd Rhys (Prif Weithredwr) a Maggie Russell (Cadeirydd)
12.45-1.30pm – Cinio
1.30-2.30pm – Creadigrwydd Mewn Argyfwng (gweithdy) gyda Jên Angharad, Prifweithredwr / CEO (Artis Gymuned / Community)
2.30-2.45pm – Egwyl
2.45-3.30pm – Prif siaradwr clo - Randel Bryan - Cyfarwyddwr Gweithredol / Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol yn Aviva Studios / Factory International
3.30-4pm – Sylwadau clo / gorffen

Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd a gwasanaeth dehongli BSL ar gael.

Mynediad
Rydyn ni am i’r gweithdy hwn fod mor hygyrch â phosibl. Mae gwasanaeth dehongli BSL ar gael wrth archebu.

Bwriedir i’r Gynhadledd fod yn ddigwyddiad ac yn amgylchedd ‘braf’. Mae hyn yn golygu y gall y cynadleddwyr wneud beth bynnag sydd ei angen arnyn nhw er mwyn i’r gofod fod yn gyfforddus, yn ddiogel ac yn groesawgar, ac er mwyn bodloni gofynion mynediad. Er enghraifft, mae croeso i chi symud, symbylu, a mynd a dod fel y mynnwch. Bydd man tawel y gallwch ei ddefnyddio ar unrhyw adeg ar gael yn y lleoliad.

Sylwch fod gennym bolisi arlwyo llysieuol. Os oes gennych unrhyw ofynion deietegol ychwanegol, nodwch hynny wrth archebu.

Os oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i ymateb i’ch gofynion mynediad, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at yvonne@creucymru.com

Teithio
Os ydych chi’n aelod o Creu Cymru sy’n mynd i’r digwyddiad, a’ch bod yn teithio 50 o filltiroedd neu fwy bob ffordd o leoliad eich cwmni / cartref yng Nghymru, rydych chi’n gymwys i gael bwrsariaeth teithio o hyd at £20.

Hyn a hyn o gyllid sydd ar gael a bydd yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i’r felin.

I wneud cais am ffurflen bwrsariaeth neu ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, anfonwch e-bost at yvonne@creucymru.com.

Gwybodaeth am Deithio
Dyma gyfeiriad y lleoliad:
Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth
Prifysgol Aberystwyth
Campws Penglais
Aberystwyth
SY23 3DE

Cynhelir y derbyniad â diodydd (lleoliad i'w gadarnhau)

Llety
Byncws, Prifysgol Aberystwyth Byncws  : Cynadleddau a Digwyddiadau , Prifysgol Aberystwyth ((01970) 621960 Email: conferences@aber.ac.uk )
Gwesty Harry’s https://www.harrysaberystwyth.com/hotel.html
Gwesty’r Marine https://www.gwestymarinehotel.co.uk/index.html
Gwesty’r Castell https://castlehotelaberystwyth.co.uk/cy-gb/home/
Premier Inn https://www.premierinn.com/gb/en/hotels/wales/dyfed/aberystwyth/aberystwyth.html
Gwesty’r Starling Cloud, Marstons https://www.marstonsinns.co.uk/inns/starling-cloud-hotel-aberystwyth/