Confetti in the air at concert

Ein ffocws yw:

  • Cydraddoldebau, amrywiaeth a chynhwysiant
  • Eiriolaeth, ymchwil ac effaith
  • Datblygu’r gweithlu, gwaith teg a llesiant
  • Datblygu cynulleidfaoedd a chysylltiad cymunedol
  • Dangos, dathlu ac arloesi
  • Yr amgylchedd a chynaliadwyedd

Ein Blaenoriaethau

Isod ceir manylion ein blaenoriaethau trosfwaol ar gyfer y cyfnod cynllunio cyfredol fel a ddisgrifir o dan ein baneri gweithredu Hyrwyddo, Cysylltu ac Esblygu.

Dyn yn sefaill ar graig

Hyrwyddo

Ein nod yw cyfleu gwerth y celfyddydau perfformio yng Nghymru. Rydyn ni’n adnabod y prif faterion sy’n effeithio ar ein haelodau gan osod yr agenda i fynd â’r materion hyn rhagddynt, yn annibynnol yn ogystal â thrwy weithredu ar y cyd â chynghreiriaid strategol. Rydyn ni’n cynrychioli gwerth ein haelodau ac yn hyrwyddo’r gwerth y maent yn ei gyfrannu i lesiant cymunedau a hunaniaeth ddiwylliannol.

Cysylltu

Cysylltu

Rydyn ni’n cysylltu gwneuthurwyr a chyflwynwyr perfformiadau i greu cydddealltwriaeth, effaith dorfol a chanlyniadau cydfuddiol sy’n cefnogi ac yn ymestyn cyflwyniad a symudedd gweithgarwch ym maes y celfyddydau perfformio.

Esblygu

Esblygu

Rydyn ni’n datblygu cynlluniau i gyfoethogi sgiliau a phrofiad y gweithlu presennol a galluogi’r rheini sy’n newydd i’r sector i adnabod llwybrau i’r diwydiant. Anelwn at wella cydraddoldeb ac amrywiaeth y sector i sicrhau datblygu ystod eang a chynrychioladol o gynhyrchwyr cynnwys a chynhyrchu gwaith sy’n berthnasol i gynulleidfaoedd newydd ac amrywiol

Image with funder logos

Thank you!

As a charity, we couldn't continue our work without the help of generous supporters and funders. 

Huge thanks to - Arts Council of Wales, Moondance Foundation, Foyle Foundation, YesPlan, The Audience Agency, Ticketsolve and University of South Wales.