IDelwedd o liniadur agored ar ddesg, llaw a phaned o goffi
Fideos Hyfforddiant Ar Alw
Digwyddiad: hyfforddiant
Ar-lein
£5 y fideo neu £20 am fynediad i bob un o'r chwe fideo

Gwybodaeth am y digwyddiad

Nod y prosiect yw creu fideos hyfforddiant ar-alw y gall aelodau eu gwylio yn eu hamser eu hunain, naill ai fel tîm neu fel unigolion, beth bynnag sy’n addas i batrymau gweithio a dysgu.

Bydd y fideos hefyd yn darparu hyfforddiant rhagarweiniol ar gyfer hyfforddiant byw mwy manwl yn y dyfodol.

Bydd y pynciau’n cynnwys:

  • ‘Cyflwyniad i Wasanaeth i Gwsmeriaid’ gyda Tansy Rogerson, Armadillo Events (13 munud)
  • ‘Croeso cynnes i gynulleidfaoedd ag anghenion ychwanegol’ gyda Hijinx (9 munud)
  • ‘Derminoleg Gwrth-hiliaeth’ gyda Everyday Racism  (10 munud)
  • ‘Cyflwyniad i hunanofal’ gyda Beam Training (32 munud)
  • ‘Goresgyn Pryderon’ gyda Beam Training (19 munud)
  • ‘Rhoi Hwb i Greadigrwydd’ gyda Beam Training (18 minutes)

Cost i aelodau CC - £5 y fideo (gall unrhyw un yn y sefydliad ei adolygu) neu £20 i gael mynediad at y chwe fideo.

Os byddwch chi’n gwylio gyda chydweithwyr eraill, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n treulio rhywfaint o amser wedyn yn trafod yr hyn rydych chi wedi’i ddysgu a sut gallech chi roi’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu ar waith.

Rhowch wybod i ni sut rydych chi’n dod yn eich blaen. Byddwn yn anfon gwerthusiad atoch ar ôl mis, felly cofiwch roi eich adborth i ni.

Diolch yn fawr iawn i’r Foyle Foundation am ariannu’r ffilmiau.

Hefyd, diolch i’r holl hyfforddwyr, actorion, gwneuthurwyr ffilmiau a lleoliadau sy’n gadael i ni ffilmio yn eich mannau godidog.

Cysylltwch â yvonne@creucymru.com i gofrestru.

 

This project is funded by the Foyle Foundation