Blue cladded box office at Edinburgh Festival
Gŵyl Ymylol Caeredin 2024
Digwyddiad: digwyddiadau
dydd Llun, 19 Awst 16:00–dydd Llun, 26 Awst 10:00
Caeredin

Gwybodaeth am y digwyddiad

Dyma ni’n ôl! 

Mae Gwyliau Caeredin yn ymweliad hollbwysig yng nghalendr y theatr. Rydyn ni’n falch o fod yn ôl gyda’n cynnig o lety â chymhorthdal a chyfle i gyfarfod. Eleni byddwn yn cyrraedd ddydd Llun 19 Awst ac yn gadael ddydd Sul 26 Awst. Mae hwn yn gyfle gwych i gysylltu â chyd-raglennwyr ac artistiaid o bob cwr o Gymru, yn ogystal ag i weld gwaith newydd a chyffrous, a chwrdd ag artistiaid a chwmnïau sy’n perfformio yn yr ŵyl. Rydyn ni hefyd yn defnyddio’r daith fel ffordd o weld gwaith a allai fynd ar daith ledled Cymru ac i’ch lleoliad chi!

Rydyn ni’n gwybod ei bod hi’n gallu bod yn ddrud i ddod i’r ŵyl, felly mae Creu Cymru wedi trefnu 7 noson o lety â chymhorthdal mewn fflat ag 8 ystafell wely. Byddwn yn aros yn Salisbury Court, sef llety i fyfyrwyr sydd wedi'i leoli rhwng Parc Holyrood a'r Meadows ac o fewn pellter cerdded byr i lawer o brif ddigwyddiadau'r Ŵyl Ymylol gan gynnwys Summerhall a Pleasance Courtyard. Bydd cyfle hefyd i bawb o Gymru gyfarfod ar 21 Awst – bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir. 

Rydyn ni hefyd yn cadw mewn cysylltiad drwy grŵp WhatsApp dewisol.

Cynllun Cyfeillio

Rydyn ni wrth ein bodd yn mynd â phobl i Gaeredin am y tro cyntaf ond rydyn ni hefyd yn gwybod bod maint y gwyliau, a hyd yn oed cynllun y ddinas, yn gallu bod yn drech na rhywun. Er mwyn gwneud y profiad yn llai brawychus, mae gennym gynllun cyfeillio sy’n paru pobl sy’n ymweld am y tro cyntaf â phobl sydd â mwy o brofiad o Gaeredin. Os ydych chi’n cael cynnig lle ac yn awyddus i gael cyfaill, byddwn yn eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun sy’n gallu trafod ffyrdd o lunio eich amserlen gyda chi, pa fath o raglenni mae’r lleoliadau’n arbenigo ynddynt, a ble byddwch chi’n dod o hyd i bopeth.

Faint mae’n costio?*

Aelodau - £80 y noson.

Y rheini nad ydyn nhw'n aelodau - £90 y noson 

Gwestai ychwanegol yn yr ystafell – £10 y noson. 

*Yn cynnwys cyfraniad tuag at dâl glanhau

I weld amserlen argaeledd cliciwch yma:  https://docs.google.com/spreadsheets/d/1MfNM0w2wiccUC3GcE3to3xTpLJYDP4wNNOQ7l54aIsw/edit?usp=sharing 

Pwy sy'n cael dod?

Gall unrhyw gynrychiolydd o fudiad neu unigolyn sy’n aelod o Creu Cymru fanteisio i’r eithaf ar gymhorthdal Gŵyl Ymylol Caeredin. Bydd ffenestr archebu ar gyfer aelodau ar gyfradd is cyn i ni ehangu'r cynnig i’r sector ehangach ar gyfradd ychydig yn uwch. 

Ble mae’r llety?

Salisbury Court, 104 St Leonard's Street, Caeredin, EH8 9RD

https://www.unitestudents.com/edinburgh/salisbury-court 

Dim ond 10 munud o waith cerdded sydd i Sgwâr George o'r llety hwn, sydd wedi cael ei adeiladu’n ddiweddar ar St Leonards Street. Mae’n cynnwys 575 o ystafelloedd gwely en-suite mewn fflatiau clwstwr gyda lle i rhwng chwech a deg person. Mae rhai fflatiau stiwdio a fflatiau stiwdio i ddau gyda chyfleusterau coginio preifat hefyd ar gael.

Beth sydd wedi'i gynnwys yn y llety?

Mae’r llety’n cynnwys ystafell wely en-suite gyda dillad gwely a thyweli. Byddwch yn rhannu cegin lle bydd te, coffi a llaeth ar gael. Mae croeso i chi brynu a storio eich bwyd eich hun yn y gegin tra byddwch yno.