Image of tree with deep roots
Ymestyn Cyrhaeddiad, Cryfhau Cysylltiad
Digwyddiad: hyfforddiant
Arlein
Free

Gwybodaeth am y digwyddiad

Beth ydy hyn?
Wedi’i ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru, dyma gyfle datblygu strategol rhad ac am ddim i arweinwyr y celfyddydau sydd eisiau ymgysylltu’n well ac yn fwy ystyrlon â’r bobl a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Mae’n adeiladu ar y teclyn Cynllunio Gwerth i’r Cyhoedd a gomisiynwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac a ddatblygwyd gan Lisa Baxter, Sylfaenydd The Experience Business.

Bydd y rhaglen yn defnyddio syniadau a phrosesau unigryw Lisa sy’n ysbrydoli dulliau ymgysylltu â’r gymuned mwy cadarn a theg a’i phrofiad helaeth o roi’r rhain ar waith yn Awstralia, Norwy a’r DU.

Cyd-destun
Mae gan Gynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru “Er Budd Pawb” ymrwymiad clir i gyfle cyfartal, ac i’r celfyddydau fod ar gael yn eang ac yn rhwydd i bawb. Rhan allweddol o hyn yw’r sector celfyddydau yn ehangu’r ymgysylltu â’i gymunedau ledled Cymru mewn ffordd gynhwysol, ystyrlon a thrawsnewidiol.

Rydym yn wynebu nifer o heriau gyda’n gilydd fel cymdeithas, gan greu amseroedd anodd a llwm i lawer ohonom. Mae newid ar ein gwarthaf, ac fel sector celfyddydol rhaid inni ymateb i hyn a chefnogi ein cymunedau gystal ag y gallwn.

Mae’n bleser gennym ariannu’r rhaglen hon a fydd yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi’i wneud gan Lisa Baxter yng Nghymru, a fydd yn helpu i arfogi’r sector i chwarae rhan allweddol yn lles eu cymunedau ar yr adeg hollbwysig hon yn ein hanes.

Sut mae’n gweithio?
Bydd y rhaglen ar-lein hon, sydd wedi’i datblygu a’i hwyluso gan Lisa Baxter, yn cynnwys saith seminar ar-lein o hyd at 2 awr, rhwng mis Mai a Gorffennaf, ynghyd â sesiynau un-i-un.

Bydd y rhaglen yn cynnwys:

  • Fframweithiau a phrosesau newydd
  • Awgrymiadau ar gyfer dechrau sgwrs ddofn
  • Trafodaethau grŵp
  • Astudiaethau achos
  • Siaradwyr gwadd
  • Ysgrifennu darn barn a chreu dyddlyfr
  • Ymarferion i’w rhannu â chydweithwyr

Mae’r rhaglen wedi’i dylunio i fod yn syml ond eto’n llawn ystyr, yn ysgafn ond yn effeithiol. Bydd y cyfranogwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau manwl gyda’r nod o feithrin arferion dysgu gan gyfoedion, gwthio ffiniau a meddwl yn ddyfnach. Bwriad Lisa yw sicrhau bod profiad y cyfranogwyr yn un tryloyw, cadarnhaol ac, o bosibl, trawsnewidiol.

Bydd cyfieithu ar y pryd ar gael ar gyfer pob sesiwn. Mae Iaith Arwyddion Prydain hefyd ar gael i’r rheini sydd ei hangen.

Ar gyfer pwy?
Hyd at un ar bymtheg o arweinwyr y celfyddydau sy’n gyfrifol am gyfeiriad strategol eu sefydliad. Mae Creu Cymru yn darparu’r rhaglen mewn partneriaeth â Lisa Baxter, ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru. Mae’r rhaglen hon ar gyfer aelodau Creu Cymru a’r rheini nad ydynt yn aelodau. Gallwch fod yn theatr, yn gwmni cynhyrchu, yn sefydliad celfyddydol, yn gelfyddydau cymunedol, yn amgueddfa, yn lleoliad treftadaeth neu’n lleoliad cerddoriaeth. Os nad ydych chi’n siŵr a yw’r rhaglen hon yn addas i chi, cysylltwch â ni!

Beth mae’n ei olygu?
Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw bod yn bresennol, cymryd rhan a bod yn hael ac yn agored gyda’ch cyfraniad at y trafodaethau.

Mae’n bwysig bod pawb sy’n cymryd rhan yn croesawu ethos dysgu gan gyfoedion drwy gyfrannu eu sgiliau, eu harbenigedd, eu safbwyntiau a’u doethineb i bob seminar.

Hefyd, bydd darnau barn ac ymarferion dewisol a fydd yn eich galluogi chi i feddwl am bwnc pob seminar yng nghyd-destun eich sefydliad chi. Fel rhan o’r broses ddysgu, rydyn ni’n annog pawb i ddod o hyd i’r amser i wneud yr ymarferion hyn a nodi eu meddyliau mewn dyddlyfr. Wrth i chi wneud mwy o ymarferion, byddwch yn cael mwy allan ohonynt.

Byddwch hefyd yn cael ymarferion gyda chyfarwyddiadau ar sut i’w gwneud gyda’ch tîm er mwyn defnyddio’r hyn a ddysgwyd.

Ochr yn ochr â Lisa, bydd siaradwyr gwadd yn ymuno â chi yn y sesiynau.

Sut mae cymryd rhan?
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, atebwch y cwestiynau canlynol yn fyr ac anfon eich ymatebion (gan ddefnyddio'r ddolen isod) gyda chenhadaeth a gwerthoedd eich sefydliad at yvonne@creucymru.com erbyn dydd Gwener 28 Ebrill am hanner dydd.  (https://forms.gle/utsMDTHZ7g1hMPuF8)

  • Ym mha ffyrdd ydych chi eisoes yn meddwl am ymestyn eich cyrhaeddiad a chryfhau eich cysylltiad â’r gymuned? Dim mwy na 150 gair
  • Pa heriau/cyfleoedd penodol sy’n eich wynebu? Dim mwy na 150 gair
  • Pa elfennau o’r rhaglen, yn eich barn chi, sy’n berthnasol i’r uchod? Dim mwy na 150 gair
  • Beth yw eich egwyddorion sylfaenol y tu ôl i ymarfer cynhwysol? Dim mwy na 150 gair

Rhowch wybod i ni hefyd os hoffech chi gael cyfieithiad o’r Gymraeg i’r Saesneg

Rhowch wybod i ni os oes gennych unrhyw ofynion o ran mynediad.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am y rhaglen, anfonwch unrhyw gwestiynau at yvonne@creucymru.com

Amserlen (rhaid i chi fod ar gael ar gyfer yr holl sesiynau isod):

Bob wythnos ar ddydd Gwener 10am-12pm dros Zoom.

19 Mai

26 Mai

9 Mehefin

16 Mehefin

23 Mehefin

30 Mehefin

14 Gorffennaf

Modiwlau

1.  Cefndir
Yma, byddwn yn edrych ar y cydsyniad o Werth Cyhoeddus ac effaith heriau gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol diweddar ar eich uchelgeisiau a’ch gallu i ymgysylltu â'r gymuned.

2.  Perthnasedd
Yma, byddwn yn dechrau edrych ar sut gall datblygu safbwynt craff a chydlynol am y byd (yn fyd eang ac yn lleol) arwain at fwriad strategol sy’n fwy ystyrlon a pherthnasol i’r bobl a’r cymunedau rydych chi’n eu gwasanaethu.

3.  Rhwydweithiau
Yma, byddwn yn edrych ar bŵer rhwydweithiau i ymestyn cyrhaeddiad, cynyddu effaith a chryfhau gwytnwch.

4.  Pŵer
Yma, byddwn yn edrych ar gysyniadau sy’n ymwneud â deinamig pŵer, gwneud penderfyniadau dros ein hunain a democratiaeth ddiwylliannol i ymestyn ein syniadau ynghylch sut beth fyddai cyflawni gwerth cyhoeddus gyda’n cymunedau.

5.  Y gwahaniaeth rydych chi am ei wneud
Yma, rydyn ni’n edrych ar gwestiynau am werth, effaith, beth sy’n bwysig a beth allai eich achos chi dros weithredu fod, a’u trafod yng nghyd-destun Cynllun Corfforaethol Cyngor Celfyddydau Cymru.

6.  Y gallu i ymaddasu
Yma, byddwn yn edrych ar beth sy’n digwydd i’ch sefydliad ac yn eich sefydliad, ac yn y cyd-destun hwn, beth fyddai’n ei gymryd i gyflawni eich uchelgais, a sut i’w integreiddio yn eich arferion presennol – mwy o’r un peth, gwneud mân newidiadau, cyflwyno pethau newydd a gwahanol, neu wneud llai yn well?

7.  Sesiwn gyda phawb
Yma, bydd y garfan yn rhannu eu Theori Newid yn seiliedig ar y canfyddiadau o’r rhaglen a sut mae hyn yn cyd-fynd â blaenoriaethau cyhoeddedig Cyngor Celfyddydau Cymru.

Lisa Baxter
Lisa yw sylfaenydd The Experience Business a’i nod yw helpu sefydliadau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth i wireddu eu gwerth posibl i’r bobl a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Mae ei holl waith yn gydweithredol, gan weithio gyda sefydliadau’n rhyngwladol i ysgogi syniadau ac arferion newydd a dewr. Mae wedi darparu rhaglenni gwerth cyhoeddus trawsnewidiol ar gyfer Cyngor Celfyddydau Awstralia, Cyngor Celfyddydau Cymru, Rhanbarth Dinesig Bergen, Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Theatrau Everyman a Playhouse Lerpwl a Theatrau The Point a The Berry yn Eastleigh.

Dyma beth mae sefydliadau wedi’i ddweud am weithio gyda Lisa:
“Mae Lisa yn wych am hyfforddi, codi ymwybyddiaeth a herio pobl yn y gweithdai. Mae hyn yn ein helpu i ddeall a bod yn berchen ar y gwaith rydyn ni’n ei wneud. Mae ganddi hefyd ddealltwriaeth dda o’r lleoliadau a’r cyd-destun rydyn ni’n gweithio ynddo yng Nghymru, sy’n dda oherwydd nid yw’n teimlo bod rhai cyrsiau allanol wedi’u teilwra i ni”

Sharon Casey, Rheolwr Datblygu Theatrau yn Theatrau Sir Gar:
“Mae gweithio gyda Lisa wedi bod yn drawsnewidiol. Mae wedi rhoi’r offer i ni ddadansoddi, pwyso a mesur, trafod a gweithredu atebion a ddaeth gennym ni ac a oedd yn gweithio i ni. Mae’r broses yn bwerus oherwydd mae’n rhoi'r sylfaen ar gyfer datblygu yn hytrach na rhoi wyneb newydd i arferion presennol.”

Dave Baxter, Rheolwr Borough Theatre, y Fenni:  
“Diolch o galon i chi am roi’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth i ni archwilio ein gwerth cyhoeddus gyda’n cymuned. Mae wedi bod yn rhaglen wych ac rydyn ni wir yn gwerthfawrogi’r her a'r gefnogaeth, yn ogystal â rhannu profiadau a dysgu. Ymlaen â ni”!

Caroline O’Neill I Rheolwr Strategol y Celfyddydau a Diwylliant I Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf:  
“Mae ein gwaith gyda Lisa wedi bod yn amhrisiadwy o ran cefnogi ein taith o ddarganfod beth mae Ymgysylltu Dinesig yn ei olygu i ni ac i’n dinas. Yr allwedd i lwyddiant yma yw arbenigedd rhyngwladol Lisa a’i phrosesau cadarn i rymuso mudiadau i ddarganfod eu llwybr cymdeithasol/diwylliannol ar gyfer datblygu. Roedd hi’n gwneud ymdrech i’n deall ni, gan ysbrydoli a herio ein ffordd broffesiynol o feddwl a’n hymarfer, sydd wedi ein galluogi i greu’r sylfeini ar gyfer newid sylweddol”. 

Rebecca Ross-Williams I Cyn-gyfarwyddwr y Theatr a’r Gymuned I Everyman a Playhouse Lerpwl:
“Mae gweithio gyda Lisa wedi bod yn chwyldroadol i’n sefydliad ac i mi’n bersonol. Mae’r darlun yn y sefydliad yn gymhleth ac mae gweithio gyda Lisa wedi fy ngalluogi i ddatgloi a datblygu fy syniadau, gan ddefnyddio fy ngreddf a’m creadigrwydd. Cefais lawer o gefnogaeth gan Lisa drwy gydol y broses hon ac mae’n brofiad a fydd yn aros gyda mi am amser maith”. 

Charlotte Hall I Cyfarwyddwr Creadigol I Theatrau The Point a The Berry, Eastleigh