microphone

Yn bennaf oll, rhwydwaith cydweithredol yw Creu Cymru; rydyn ni’n rhannu gwybodaeth, arbenigedd, ymchwil, teithio, eiriolaeth… ac yn anad dim, awydd i ddatblygu rhaglenni a chynulleidfaoedd, gan wella a gwella'r sector yn y pen draw. Rydyn ni’n gweithio gyda’n gilydd i gefnogi adnodd sy’n fwyfwy cydnerth ar ganol cymunedau ar draws Cymru.

Fel sefydliad, rydym wedi wynebu llawer iawn o newid dros y tair blynedd diwethaf. Y newid mwyaf yw’r cynnydd yn ein haelodaeth i gynnwys cwmnïau cynhyrchu ac unigolion.

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi ein Hadroddiad ar Effaith y Sefydliad ar gyfer 2020-2023. Roedd hwn yn gyfnod pwysig, heriol a chreadigol i’n sefydliad ac i sector y celfyddydau perfformio. Hoffem achub ar y cyfle hwn i ddiolch i’n haelodau (newydd a hen), partneriaid, rhanddeiliaid, cyllidwyr, bwrdd a staff.

Yn yr adroddiad hwn, cewch wybod am ein gwaith a’r effaith y mae wedi’i chael ar yr aelodau rydym yn eu cefnogi.

Os hoffech drafod yr adroddiad neu gael rhagor o wybodaeth am ein sefydliad, mae croeso i chi gysylltu â Louise, ein Cyfarwyddwr ar louise@creucymru.com