Gundija Zandersona
menyw gyda gwallt melyn yn gwenu

Perfformwraig, coreograffydd ac addysgydd o Latfia yw Gundija Zandersona sy’n byw yng Nghaerdydd.

Fel cyfarwyddwr gweithredol i Kokoro Arts Cyf. ac artist dawns annibynnol, mae hi’n gweithio ar draws amrywiaeth o genres gan gynnwys gwaith i deuluoedd a chynulleidfaoedd ifainc, llefaru a symud, theatr gorfforol a dawns gyfoes.

Wedi’i hyfforddi yn Latfia, Denmarc a’r DU, mae wedi bod yn gweithio’n rhyngwladol dros y 6 blynedd diwethaf, gan greu ac adolygu gweithiau perfformio.

Mae ei gwaith artistig wedi cael ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Theatr Volcano, Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Prifysgol De Cymru ac eraill.