Jodie Ann Nicholson

Artist dawns a gweledol hil gymysg Prydeinig/Affro/Caribïaidd yw Jodi Ann Nicholson sydd â’i chartref yn ne Cymru.  

A hithau’n hyfforddi mewn dawns gyfoes yn TrinityLaban ac yn mynd i’r afael â Chelfyddyd Gain yn Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd, mae ei gwaith yn chwarae ag amlddisgyblaethau, gan edrych ar hunaniaeth, cartref, cymuned a pherthyn drwy ei phrofiadau personol o fabwysiadu.

Ochr yn ochr â hyn mae Jodi yn ceisio gweithio gyda phobl a chynnal sgyrsiau sy’n berthnasol iddynt. Mae’n bwysig i Jodi ei bod yn weithgar wrth gefnogi cymuned greadigol esblygol sy’n meithrin diwylliant sy’n fwy cynhwysol, cydnerth a dathliadol yn ei gynrychiolaeth o’r byd sydd ohoni. 

Yn ogystal â bod yn aelod o’r bwrdd i Gelfyddydau Kokoro, mae hefyd yn Llysgennad Dawns i Gwmni Dawns Cenedlaethol Cymru ac yn aelod o LOYALTY, Criw SUII a Groundwork.

Llun o Jodie Ann Nicholson