Louise Miles-Payne

Cyfarwyddwr

cysylltu â ni’

Llun o Louise

Un o Swindon, Wiltshire yw Louise yn wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaerdydd er 1999 ar ôl dod i astudio Drama Theatr a’r Cyfryngau ym Mhrifysgol Morgannwg (Prifysgol De Cymru bellach).

Ymunodd Louise â Creu Cymru ym mis Mai 2020. Fel Cyfarwyddwr, hi sy’n gyfrifol am ddyfeisio, datblygu ac arwain ar raglen newid strategol hirdymor i Creu Cymru mewn partneriaeth â’r aelodau, y Bwrdd a chyllidwyr.

Cyn ymuno â Creu Cymru, bu Louise yn gweithio yn Nhȋm Menter Prifysgol Caerdydd. Gan weithio gydag ystod o gydweithwyr mewnol ac allanol, datblygodd a chyflwynodd ffyrdd creadigol o adeiladu rhwydweithiau, cymunedau a gweithgareddau newydd yn ymwneud â menter ac entrepreneuriaeth ar draws y Brifysgol. Cyn hynny, bu Louise yn gweithio yn UpRising, elusen arweinyddiaeth ieuenctid, fel Uwch-reolwr Rhaglenni i lunio cynllun rhaglenni, cwricwlwm lleol a fframwaith gwerthuso i Raglen Arweinyddiaeth Caerdydd a Phrosiectau Arweinyddiaeth Amgylcheddol wedi’u hanelu at bobl ifainc 19-25 oed o gefndiroedd amrywiol sydd wedi’u tangynrychioli.

Cynhyrchydd ac ymgynghorydd creadigol llawrydd oedd Louise gan arbenigo mewn rheoli prosiectau, rhaglennu a chynhyrchu. Bu’n gweithio gydag Angharad Lee a Chynyrchiadau Leeway ar ymchwilio i a datblygu fersiwn newydd o The Last Five Years gan Jason Robert Brown gan edrych yn benodol ar integreiddio coreograffi BSL i’r cynhyrchiad.

Fel Pennaeth Rhaglennu yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, tasg Louise oedd y rhaglennu artistig yn y gofodau theatraidd, lleoliadau safle-benodol ar ac oddi ar y safle, dros 500 o berfformiadau am ddim y flwyddyn, rhaglennu gwyliau a phrosiectau arbennig fel WOW - Gŵyl Menywod y Byd a digwyddiad 10 mlwyddiant y Ganolfan, ‘Ar Waith Ar Daith’, sef sbloet awyr agored ysblennydd gyda chynulleidfa o dros 12,000.

Louise a fu’n rheoli ac yn cynhyrchu ar y tȋm y tu ôl i gynyrchiadau'r Ganolfan. Roedd hyn yn cynnwys Igam Ogam, cynhyrchiad dawns teithiol dwyieithog i blant, The Frozen Scream, perfformiad arswyd / drama promenâd safle-benodol a ysgrifennwyd ar y cyd gan Sarah Waters a Chris Green a’i gyd-gynhyrchu â Birmingham Hippodrome, Land of my Fathers gan Chris Urch a deithiodd y DU ac A Good Clean Heart, cydgynhyrchiad â Neontopia.

Ymunodd Louise â’r Ganolfan ym mis Mehefin 2004 fel rhaglennydd theatr. Cyn hynny, hi oedd Swyddog Datblygu’r Celfyddydau ym Mhrosiect Celfyddydau Cwm-parc yn Nhreorci lle bu’n gyfrifol am ehangu, datblygu a hyrwyddo’r defnydd o Theatr Neuadd y Parc ac am gyflwyno rhaglen celfyddydau perfformio arbennig yn cynnig gweithgareddau celfyddydol i blant, pobl ifainc ac oedolion.

Hi hefyd oedd Cadeirydd Creu Cymru ac roedd ar fwrdd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru a Chwmni Dawns Carlson.

Mae Louise yn byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i phlentyn bach. Yn ei hamser sbâr pobydd brwd a ffan o sioeau gemau yw hi!