cynulleidfa yn y theatr
Datblygu Cynulleidfaoedd

Prif nodau’r prosiect yw canfod ffyrdd o a) ddatblygu cynulleidfaoedd ar gyfer theatrau a b) gwella ymgysylltiad cynulleidfaoedd â gwaith a grëir yng Nghymru drwy bartneriaethau cydweithredol rhwng cyflwynwyr a chynhyrchwyr.

Yn fenter datblygu cynulleidfaoedd yn bennaf, mae’r prosiect yma hefyd yn mynd i’r afael â dau angen arall sydd wedi’u hadnabod.  Yn gyntaf, torri’r diffyg cysylltiad y cyfeirir ato’n aml rhwng cynhyrchwyr a chyflwynwyr.  Yn ail, creu’r adnodd i fynd i’r afael â’r angen sydd wedi’i adnabod am gymorth gyda chynhyrchu.  Mewn rhai achosion, nid oes gan artistiaid y capasiti i drosi Gwaith i gynulleidfaoedd yn effeithiol er gwaethaf cefnogaeth canolfannau ac er y gellir weithiau ganfod adnoddau (gofod ymarfer, cyllid, technegol, marchnata) i gefnogi datblygu prosiect, bydd hyd yn oed canolfannau sydd â hen ddigon o adnoddau’n brwydro i gael hyd i’r capasiti i fod yn gynhyrchwyr gweithredol.

Elfen allweddol o’r prosiect yma yw ‘Hyb Cynhyrchwyr’.  Rhestr o gynhyrchwyr annibynnol yw hon sy’n gweithio mewn partneriaeth â chanolfannau i ddarparu cymorth gyda chynhyrchu, gweithgareddau estyn allan a chapasiti ychwanegol i artistiaid/cwmnïau.

O’r cychwyn cyntaf, pennir naratif clir o ran yr hyn a ddisgwylir mewn perthynas ag uchelgeisiau’r ganolfan i ddatblygu ymgysylltiad cynulleidfaoedd, a chan ddilyn ymweliadau â theatrau gan grwpiau dethol o artistiaid, mae’r partneriaethau yn y prosiect yma’n cael eu pennu mewn ymateb i’r uchelgeisiau datganedig hynny.  Yr amcan yw datblygu gwaith pwrpasol sy’n taro deuddeg gyda’r cymunedau a wasanaethir gan y theatrau partner a darparu cyfleoedd i artistiaid annibynnol sy’n byw yng Nghymru i greu gwaith perthnasol o ansawdd da.