Collage o ddelweddau o theatrau
Adroddiad Effaith Hynt

Mae Creu Cymru yn falch iawn o allu rhannu ein Hadroddiad Effaith newydd sbon ar gyfer Hynt, y cynllun mynediad cenedlaethol sy’n gweithio gyda theatrau a chanolfannau celfyddydau yng Nghymru i sicrhau bod cynnig cyson ar gael i ymwelwyr sydd â gofynion mynediad, a’u cyfeillion hanfodol. 

Yr Adroddiad Effaith yw’r tro cyntaf i ni werthuso’r cynllun fel hyn. Rydyn ni wedi gweld y pŵer y gall mynediad at theatr a’r celfyddydau ei drawsnewid, ac roedd yn gyfle i atgyfnerthu ein stori, rhannu straeon ein defnyddwyr, ein lleoliadau a’n rhanddeiliaid. I rannu’r llwyddiannau a dangos beth sy’n wych, yn unigryw ac yn feiddgar am gynllun Hynt.  

Mae Hynt yn Gynllun gan Gyngor Celfyddydau Cymru, a reolir gan Creu Cymru mewn partneriaeth â Diverse Cymru. Ym mis Mawrth 2014, cafodd Creu Cymru ei benodi gan Gyngor Celfyddydau Cymru (CCC) i weithio mewn partneriaeth â Diverse Cymru i ddarparu un cynllun hygyrchedd cenedlaethol ar gyfer cwsmeriaid ag anableddau a’u cyfeillion hanfodol. Datblygwyd Hynt gan a gyda phobl anabl, y trydydd sector, theatrau a chanolfannau celfyddydau.  

Rydym yn ddiolchgar i Arts Council England am ariannu’r adroddiad hwn ac i Abigail Tweed – Mileston Tweed a Mark Richardson – Social Impact Consulting am gynnal adroddiad mor gynhwysfawr.  

Mae'r adroddiad llawn i'w weld yma, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i fersiwn Hawdd ei Ddeall a Fersiwn BSL.