Pobl o wahanol liw croen yn ffurfio cwlwm cytûn â'u dwylo
Caffis Diwylliant

Ymunwch â ni ar gyfer cyfres o sgyrsiau ar-lein amser cinio o’r enw Caffis Diwylliant. Bydd themâu’r sgyrsiau’n troi o gwmpas prif bwyntiau’r Contract Diwylliannol.

 swigen meddwl ar gefndir pinc

Hyrwyddo iechyd - 2 Medi

Amrywiaeth yn y Gweithlu a’r Bwrdd – 9 Medi

Cyflog Teg – 23 Medi

Cynnydd wrth Leihau Ôl Troed Carbon – 30 Medi

Y potensial i dyfu – 7 Hydref

Bydd pob Caffi Diwylliant yn cynnwys arbenigwyr ar y testun a’r rheini sydd â phrofiad yn y meysydd dan sylw ac yn para awr (12-1yp). Bydd amser ar gyfer sesiwn holi ac ateb gyda’r siaradwyr fel rhan o’r digwyddiadau.

Ymhlith y siaradwyr bydd cynrychiolwyr o Ymddiriedolaeth y Theatrau, Chwarae Teg, TUC Cymru ac Inc Arts, Backstage Niche, Shelter Cymru, Anabledd Cymru, Jerwood Arts, Stonewall Cymru ynghyd â mwy o enwau i dod yn fuan

Ein nod yw dwyn at ei gilydd sefydliadau ac unigolion i wrando, dysgu, rhwydweithio a mynd ag enghreifftiau o’r arferion gorau gyda nhw i’w defnyddio wrth greu a chyflwyno eu Contractau Diwylliannol hwythau.

Bydd isdeitlau a chyfieithu Cymraeg ar gael ym mhob Caffi. Os oes gynnoch chi unrhyw anghenion mynediad eraill, cysylltwch.

Mae’r Caffis Diwylliant yn agored i aelodau Creu Cymru a’r rheini nad ydynt yn aelodau.

Cefnogir y prosiect hwn gan Gyngor Celfyddydau Cymru fel rhan o'u Cronfa Cydrannu.