Pobl yn siarad yn y Cynhadledd
Datganiad ar yr Adolygiad Buddsoddi

Rydyn ni’n falch iawn o gael ein dewis yn un o sefydliadau newydd Cyngor Celfyddydau Cymru sy’n cael ei ariannu’n rheolaidd o 2024 ymlaen. 

Rydym wedi gweithio’n galed dros y blynyddoedd diwethaf i greu sefydliad mwy cynaliadwy, gan weithio gyda mwy o bobl, a chael mwy o effaith ar gynulleidfaoedd ledled Cymru.

Roedd gormod o geisiadau yn y rownd hon o gyllid, ac rydym yn ddiolchgar i CCC am eu buddsoddiad yn ein gwaith a’n sefydliad. Gyda’r cyllid a’r sefydlogrwydd hwn, byddwn yn parhau i gefnogi ein haelodau a’r gymuned ehangach gyda mentrau i wella’r celfyddydau perfformio yng Nghymru. Byddwn yn gallu ehangu ein gwaith, gan gefnogi mwy o bobl a helpu i dyfu’r sector.

Diolch o galon i’n haelodau, ein staff ac aelodau’r Bwrdd (yn y gorffennol a’r presennol), sydd wedi bod yn rhan annatod o’n gwaith ni yma.

Llongyfarchiadau i’r holl ymgeiswyr llwyddiannus eraill, yn enwedig y rheini sy’n cael cyllid rheolaidd am y tro cyntaf.

Hoffem gydnabod ac ymestyn ein cefnogaeth i sefydliadau, y mae llawer ohonynt yn aelodau o Greu Cymru, nad ydynt wedi bod yn llwyddiannus fel rhan o’r rownd yma. Maent i gyd yn gwneud gwaith gwych ac yn rhan bwysig o’r sector celfyddydau perfformio yng Nghymru. Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i’w cefnogi a’u helpu ar yr adeg hon.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu buddsoddiad parhaus a’u cefnogaeth i’r sector celfyddydau yng Nghymru.  Fodd bynnag, rydym hefyd yn nodi bod cyllid sy’n aros yr un fath yn golygu toriad amser real i lawer o sefydliadau, a fydd, ynghyd ag effaith yr argyfwng costau byw, yn cyfyngu ar eu gallu i ddatblygu a thyfu gweithgarwch. Bydd llawer o sefydliadau’n gwneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol, ac edrychwn ymlaen at ragor o drafodaethau gyda Chyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i weld sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i barhau i gefnogi ein cymunedau ehangach yn y ffordd orau.